Shwmae! Pob nos Iau! Heblaw yr wythnos hon!

“Sorry.”
Tracy Chapman, 1988

Dyn ni ddim yn darlledu yr wythnos hon.

Dyn ni’n rhedeg gorsaf radio cymunedol yma. Nid Jonsi.

“Sori.”
Shwmae.com, 2010

Gwnawn ni dod yn ôl gyda DJ arall yn y stiwdio. 26ain mis Awst. Pwy? Cadwch y donfedd y glir. (Dyn ni dal yn aros am gadarnhad.)

Diolch am ddarllen.

Cyhoeddwyd yn Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Shwmae! Pob nos Iau! Heblaw yr wythnos hon!

Catrin Dafydd ac Ymerodraeth Carafán

Maes C
6ed mis Awst 2010

Steddfod, Steddfod, Steddfod.
Ry’n ni yma yn y Steddfod, ie dyma yw ein gwyliau
A lle ti’n talu pymtheg punt i racso dy holl sgidiau.
A lle ti’n dod a mam a mam-gu a dy gariad,
A lle ti’n dod i glywed cerdd dant a llafariad,
Falle bo ti’n un o’r bastards lwcus ar y stondin
Un o’r bois sy’n gallu beni lan a dod mewn am ddim
Er bo chi’m gwneud dim byd ond siarad malu cachi
A chynnig te i’r bastards blin sydd wedi gorfod talu

Yn Steddfod
Pawb ti’n nabod mewn un cae Pam ddiawl i ni’n neud na?
Yn Steddfod
Pawb yn squashed mewn bws wennol
Mae’n hollol uffernol
Ac roedd unwaith heddi pan nath rhyw fastard rechi
Yn Steddfod D
wylo lan yn y nen i’r arch-dderwydd
Ac i fenyw y goron sy’n newydd
Dwylo lan i bawb yn eu carafan
Ac i babell Barddas ie, ie

Y Steddfod yw y lle i sboto rhyw selebriti
Heddiw gweles Martin Geraint boi na off y teli
Gwelais Tara Bethan ac un o bois o Mega
Rhieni’n bango mlan am ysgol yn Treganna
Gwelais rhai gwleidyddion Carwyn Jones, Ieuan Wyn Jones,
Siarad mewn digwyddiad oedd yn lansio llyfr am traffic cones
Ac yna gwelais Elin Jones, Leanne, Helen Mary
Siarad am y badgers ro’n nhw’n edrych eitha scary,
Yna gwelais Dafydd Êl yn ei siwt a’i holl drimmings,
A Gorsedd y Barddau yn eu bling-blings
Ac yna gwelais criw Plaid Cymru yn eu pabell
Yn holi beth ar ddaear nawr maen nhw’n sefyll?
Yna gwelais Elfed Roberts Steddfod yn ei siwt
Penderfynais innau yn reit sydyn fod o’n ciwt!

Yn Steddfod
Pawb mewn cotiau glaw flashy
Yn trio bod yn trendy
Yn Steddfod
Doedd dim banc cyfalafol
Pwy dwat oedd gyfrifol?
Yn Steddfod, Steddfod, Steddfod

Dwylo lan i’r boi gyda’r adlen fwya
Ai ceisio profi seis dy goc wyt ti gyda honna?
Dwylo lan i bwy bynnag biwcodd
Yn y gawod oer cyn i fi fynd i mewn!

Cerdded rownd y maes a gwneud un cam cyn gorfod stopio
Gweld rhyw foi o neithiwr ti’n meddwl nes di copio
Treuio trwy’r dydd yn trio cofio enwau
Chillio gyda ffrinidau yn y Pabell Cymdeithasau
Chicken tikka naan a crempog blydi grêt
Trio mynd i’r toilet ond ma pishio dros y sêt.
Hanner awr yn yfed wrth y Guiness bar
Gwrando ar rhyw cheesy dude sy’n meddwl fod e’n superstar,
A gyda llaw rhowch y jiawled flaen eu gwell
Y rhai sy’n dweud ‘sai’n dod i Steddfod leni mae’n rhy bell!’

Yn Steddfod
Roedd Glyn Ebwy yn wirion
Doedd dim blydi arwyddion
Yn Steddfod, steddfod, steddfod
Fi’n caru ti.

Geiriau cân gan Catrin Dafydd

Cyhoeddwyd yn Cerddoriaeth | Tagiwyd , , | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Catrin Dafydd ac Ymerodraeth Carafán

Gwrando heno

Gwrando!

Dyn ni’n darlledu NAWR!

Cyhoeddwyd yn Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Gwrando heno

Shwmae, pob nos Iau. Darllediad nesaf: 12fed mis Awst 2010


Shwmae yw gorsaf radio newydd o Gaerdydd – ar y we.

Mae’r darllediad nesaf Shwmae yn digwydd:
nos Iau 12fed mis Awst 2010
7PM – 11PM

Dere nôl i wrando ar gerddoriaeth amrywiol a thrafod:

  • Newyddion Caerdydd
  • Separado!, ffilm Gruff Rhys a Dyl Goch
  • Y Steddfod Gen wythnos diwetha
  • #rhanidan

Shwmae, pob nos Iau.

Cyhoeddwyd yn Newyddion | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Shwmae, pob nos Iau. Darllediad nesaf: 12fed mis Awst 2010