Dyma gopi o lythyr i Eos oddi wrth Radio Shwmae. Eos yw’r asiantaeth hawliau darlledu newydd sy’n cynrychioli cannoedd o ein cerddorion talentog yng Nghymru.
Annwyl Eos
Cyfarchion o Radio Shwmae, gorsaf radio annibynnol ar y we. Rydyn ni wedi cwrdd o’r blaen ym Midem, Steddfod ayyb.
Ebostio ydw i i ofyn am drwydded Eos. Rydyn ni’n bwriadu ail-ddechrau sioeau Radio Shwmae ar y 1af o fis Ionawr 2013 (yfory).
Mae’r orsaf yn hollol annibynnol gydag adnoddau annibynnol, gwirfoddolwyr a does dim ffynonellau o arian cyhoeddus. Rydyn ni’n disgwyl ffigyrau cynulleidfa barchus ond llai na gorsafoedd radio traddodiadol ar yr awyr.
Wrth gwrs rydyn ni’n awyddus i gefnogi artistiaid Cymraeg gyda phris teg. Ar hyn o bryd mae gennyn ni trwydded ffrydio ar-lein gyda PRS sydd yn costio £134.40 am flwyddyn os ydych chi eisiau cymharu.
Faint fyddai trwydded Eos yn costio ar gyfer ffrydio ar y we? Os ydy e’n haws byddai trwydded dros dro ar gyfer y 1af yn unig yn ddefnyddiol os ydych chi’n brysur ar hyn o bryd. Dw i’n siŵr byddai modd cytuno rhywbeth tymor hir nes ymlaen. Ond plîs gadewch i mi wybod cyn gynted â phosib er mwyn i mi ddechrau hyrwyddo’r sioe a rhyddhau datganiad am gytundeb teg.
Blwyddyn newydd dda iawn i gerddorion yng Ngymru
Heddwch
Radio Shwmae
Gwnawn ni ddiweddaru’r wefan hon gyda rhagor o newyddion cyn hir.
DIWEDDARIAD: Rydyn ni wedi cael ymateb oddi wrth Eos:
Dim ond hawliau darlledu radio a theledu mae Eos yn ei gynrychioli. Mae ein hawliau eraill i gyd, gan gynnwys defnydd ar-lein, dal gyda PRS. Felly os mai dim ond defnydd ar-lein fydde chi’n ei wneud, mae trwydded PRS yn ddigon i chi gario mlaen. Ond diolch am ofyn a phob lwc gyda’r orsaf.
Bydd ein darllediad nesaf yn fuan…